Search for more Public Notices in your area
CREDITORS SECTION
Planning

CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF

Notice ID: NP3977646

Notice effective from
22nd February 2017 to 24th March 2017

CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984 - ADRAN 14 CYNGOR SIR FYNWY: CYMUNED TYNDYRN (R94 PYLLAU PONTYSAISON, TYNDYRN) - GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2017
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cau Ffordd dan adran 14 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984. Cynigir y gorchymyn er mwyn hwyluso gwaith dreinaid priffyrdd hanfodol. Effaith y gorchymyn fydd cau rhan o’r R94 Pyllau Pontysaison, Tyndyrn. Bydd ffordd arall ar gael trwy ; Dargyfeiriad: Teithio mewn cyfeiriad deuheol yn gyffredinol ar hyd yr C53.3 tan y cyffordd gyda’r R83 Heol Devauden. Teithio mewn cyfeiriad gogledd orllewinol yn gyffredinol lawr yr C58.5 tan y cyffordd gyda’r C66.4 a vice versa. Teithio mewn cyfeiriad orllewinol ar hyd yr R83 Heol Devauden tan y cyffordd gyda’r B4293. Teithio mewn cyfeiriad gogleddol ar hyd y B4293 tan y cyffordd gyda’r C52.3. Teithio mewn cyfeiriad gogledd dwyreiniol ar hyd y C52.3 tan y cyffordd gyda’r R94. Teithio mewn cyfeiriad de dwyreiniol ar hyd yr R94 a vice versa. Daw'r Gorchymyn i rym ar 6ed Chwefror 2017 a bydd yn aros mewn rym am 1 wythnos neu tan i’r gwaith gorffen. Drwy rinwedd Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person sy'n torri, neu sy'n defnyddio neu ganiatáu defnydd cerbyd sy’n torri, cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd. Dyddiedig 22 Chwefror 2017 Robert Tranter Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Fynwy Blwch SP 106 Cil-y-coed Sir Fynwy NP26 9AN

Comments

Related notices