CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN DROS DRO RHEOLEIDDIO TRAFFIG
Notice ID: NP3927765
CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN DROS DRO RHEOLEIDDIO TRAFFIG DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984 - ADRAN 14 CYNGOR SIR FYNWY: CYMUNED TRYLEG UNEDIG (C48.9 LONE LANE, PENALLT) - GORCHYMYN DROS DRO RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016
HYSBYSIR DRWY HYN i GYNGOR SIR FYNWY ar 28 Tachwedd 2016 wneud Gorchymyn dan A14 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984. Gwnaed y gorchymyn i hwyluso cyflenwad trydan newydd ar gyfer cabinet BT. Effaith y gorchymyn fydd cau adran o C48.9 Lone Lane, Penallt i bob traffig heblaw traffig yn gysylltiedig â'r gwaith. Bydd ffordd arall ar gael drwy: Teithio mewn cyfeiriad Gorllewinol ar hyd y C48.9 hyd ei chyffordd gyda'r C48.6. Teithio mewn cyfeiriad Gogledd Orllewinol ar hyd y C48.6 hyd ei chyffordd gyda C48.4. Teithio mewn cyfeiriad cyffredinol Gogledd Ddwyreiniol ar hyd y C48.4 hyd ei chyffordd gyda'r C48.1 Heol Birches. Teithio mewn cyfeiriad cyffredinol De Ddwyreinol ar hyd y C48.1 Heol Birches hyd ei chyffordd gyda'r C48.9 Lone Lane a'r ffordd arall o amgylch. Daw'r Gorchymyn i rym ar 28 Tachwedd 2016 a bydd yn parhau mewn grym hyd ddim hwyrach na 11 Rhagfyr 2016 neu hyd y caiff y gwaith ei gwblhau. Drwy rinwedd Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1084 mae person sy'n torri neu sy'n defnyddio neu ganiatáu defnyddio cerbyd yn groes i gyfyngiad neu waharddiad a osodwyd dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd. Dyddiedig 28 Tachwedd 2016 Robert Tranter Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyngor Sir Fynwy, Blwch SP 106, Cil-y-coed, Sir Fynwy. NP26 9AN
Comments