Search for more Public Notices in your area
CREDITORS SECTION
Traffic

CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF

Notice ID: NP3923233

Notice effective from
23rd November 2016 to 23rd December 2016

CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 - ADRAN 14 CYNGOR SIR FYNWY: CYMUNED ROGIET (HEOL YR ORSAF, ROGIET) - GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2016
TRWY HYN, FE RODDIR RHYBUDD BOD CYNGOR SIR FYNWY ar y 5ed o Ragfyr 2016 yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn o dan A4 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Effaith y Gorchymyn yw gosod y cyfyngiadau canlynol dros dro. Atodlen 1 - Cau Ffyrdd a) Pont rheilffordd Rogiet, Gwyriad: Does dim llwybr amgen ar gael. Atodlen 2 - Clirffordd Drefol a) Heol y Dylluan Wen o'i gyffordd gyda Heol yr Orsaf i'w gyffordd gyda Martin Close. b) Ochr orllewinol Heol yr Orsaf o gyferbyn â Rhif 5 Heol yr Orsaf i gyffordd gyda Heol y Dylluan Wen. Daw'r Gorchymyn i rym ar y 5ed o Ragfyr 2016 tan ddim hwyrach na'r 5ed o Fehefin 2018 neu tan fod y gwaith wedi'i gwblhau. Yn rhinwedd Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, bydd person sy'n torri, neu sy'n defnyddio neu'n caniatáu defnyddio cerbyd i dorri, cyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Adran 14 o'r Ddeddf yn euog o drosedd. Dyddiedig 23 Tachwedd 2016 Robert Tranter Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Fynwy Blwch Post 106 Cil-y-coed Sir Fynwy NP26 9AN

Comments

Related notices