CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF RHEOLEIDDIO
Notice ID: NP3923224
CYNGOR SIR FYNWY GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984 - ADRAN 14 CYNGOR SIR FYNWY: CYMUNED CAS-GWENT (HEOL VAUXHALL, CAS-GWENT) - GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2016
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY ar 5 Rhagfyr 2016 yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cau Ffordd dan adran 14 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984. Cynigir y gorchymyn er mwyn gosod cysylltiad newydd prif bibell ddwr. Effaith y gorchymyn fydd cau Heol Vauxhall, Cas-gwent. Dargyfeiriad: Teithio mewn cyfeiriad De Orllewinol ar hyd yr A48 hyd ei chyffordd gyda'r A466. Teithio mewn cyfeiriad Gogleddol ar hyd yr A466 hyd ei chyffordd gyda Heol Mounton. Teithio mewn cyfeiriad Dwyreiniol ar hyd Heol Mounton hyd ei chyffordd gyda Heol Vauxhall a'r ffordd arall o gwmpas. Daw'r Gorchymyn i rym ar 5 Rhagfyr am 1 diwrnod. Drwy rinwedd Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person sy'n torri, neu sy'n defnyddio neu ganiatáu defnydd cerbyd sy’n torri, cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd. Dyddiedig 23 Tachwedd 2016 Robert Tranter Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Fynwy Blwch SP 106 Cil-y-coed Sir Fynwy NP26 9AN
Comments