Search for more Public Notices in your area
Traffic

Flintshire, Multiple Traffic Notices

Notice ID: MFN0676935

Notice effective from
16th September 2022 to 16th October 2022


Hysbysiad O Orchymyn Addasu
Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt A Chefn Gwlad 1981
Map Diffiniol A Datganiad O Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ar Gyfer Sir Clwyd
Gorchymyn Addasu Map Diffiniol 2020
(Llwybr Cyhoeddus Rhif 2 Yng Nghymuned Caerwys)

Ar 7 Mehefin 2022, cadarnhaodd Cyngor Sir y Fflint y Gorchymyn uchod heb ei addasu:
1) Ychwanegu llwybr troed cyhoeddus, yng Nghymuned Caerwys yn Sir y Fflint, ato gan ddechrau yn NGR 31275 37153 i gyfeiriad y dwyrain am bellter o oddeutu 50 metr yn NGR 31280 37152 fel y dangosir gyda llinell ddu doredig rhwng pwyntiau A a B ar

fap y Gorchymyn.
2) Dileu ohono y Llwybr Troed Cyhoeddus, yng Nghymuned Caerwys yn Sir y Fflint, gan ddechrau yn NGR 31275 37153 i gyfeiriad y de am bellter o oddeutu 24 metr yn NGR 31273 37151 fel y dangosir gyda llinell ddu gref rhwng pwyntiau A ac C ar fap y

Gorchymyn.
3) Addasu'r manylebau perthnasol a gynhwysir yn y Datganiad sy'n cyd-fynd a'r Map Diffiniol.

Mae copi o'r Gorchymyn a Map y Gorchymyn i'w gweld yn rhad ac am ddim yn ystod oriau swyddfa yn Swyddfa'r Post Caerwys ac yn ystod oriau rhesymol yn y Dderbynfa, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3DT, Sir y Fflint. Gellir prynu cop'i'au o'r Gorchymyn a'r map am £5.00.
Daeth y Gorchymyn i rym ar 7 Mehefin 2022, ond petai unrhyw unigolyn a gaiff eu tramgwyddo gan y Gorchymyn yn dymuno cwestiynu ei ddilysrwydd neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhan ohono, ar y sail nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf uchod, neu ar y sail nad yw'n cydymffurfio a gofynion y Ddeddf neu unrhyw reoliad a wnaed o dan y Ddeddf mewn perthynas a chadarnhau'r Gorchymyn, gall ef neu hi, o dan Atodlen 15 i'r Deddfau a weithredir gan baragraff 12 yr Atodlen, wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 42 diwrnod i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn gyntaf fel sy'n ofynnol gan baragraff 11 o Atodlen 15 o'r Ddeddf honno. RS/SLW/11/3/402

Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NB Dyddiedig yr 16 diwrnod o Medi 2022.



Deddf Cynllunio Gwlad A Thref 1990
Deddf Gynllunio (Adeiladau Rhestredig Ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig Ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/ceisiadau a ganlyn wedi'u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y ddeddfwriaeth uchod. FUL/000209/22 ac LBC/000212/22 - Ceisiadau Adeilad Rhestredig a Chynllunio i adeiladu pwll nofio gyda chaeadle, cwt pwmpio a phatio ar gyfer defnydd preswyl yn gysylltiedig a Phlas yn Hersedd, Ffordd Wrecsam, Pontblyddyn. (Mae'r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig).
Gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 7 Hydref 2022 ar ein gwefan sef

https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire

. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau yngly n a'r cais uchod wneud hynny trwy'r wefan, trwy e-bost at

planning.consultation@flintshire.gov.uk

neu yn ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF gan nodi'r cyfeirnod perthnasol
erbyn y dyddiad uchod.
A N Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) ar ran Cyngor Sir y Fflint Dyddiedig yr 16ain diwrnod o Medi 2022.


Rhybudd O Orchymyn Gwahardd Traffig Drwodd Dros Dro
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14 Sealand

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn sy'n gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd First Avenue rhwng y cyffyrdd
a Parkway a Drive A, Sealand yn Sir y Fflint.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn hwyluso gosod cysylltiadau gwasanaeth a'r gwaith cysylltiedig gan Kiernan Construction Limited Bydd arwyddion priodol wedi'u gosod yn dangos y ffordd amgen ar gyfer cerbydau.
Daw'r Gorchymyn i rym ar 21 Medi 2022. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am bythefnos yn unig, neu lai na hynny os bydd y gwaith wedi'i gwblhau'n gynt, ac ni fydd ar gau am ddim mwy na 18 mis. A B/FCC (TTRO) 044281
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint Dyddiedig yr 16ain diwrnod o Medi 2022.

Hysbysiad O Gynni
(Stryt Isa, Yr Hob)
(Dim Stopio Ar Farciau Cadwch Yn Glir Yr Ysgol)
(Dydd Llun - Dydd Gwener 8.00am - 5.00pm)

Rhoddir rhybudd trwy hyn fod Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gosod 4 llinell Igam Ogam Cadwch yn Glir yr Ysgol ar ochr de-orllewinol Styt Isa gyferbyn a giatiau'r ysgol ger eiddo West Winds, Hazel Bank, Ty Hydref a Holm Lea, bydd y marciau rhwng 25,560m a 43,560m o hyd.
Rheswm dros y Cynnig: Yn dilyn proses blaenoriaethu cadarn, mae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi Ysgol Uwchradd Castell Alun,
yr Hob fel blaenoriaeth i'r Awdurdod ar 6l asesu o dan fenter Llwybrau Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cymru. Yn dilyn cais
llwyddiannus i Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid i weithredu mesurau diogelwch er mwyn mynd
i'r afael a thagfeydd a lleihau symudiadau cerbydau diangen a brofir ar hyd y llwybr yr Ysgol. Mae mesurau o'r fath yn cynnwys
darpariaethau beicio a cherdded gwell.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn, arferol yn Llyfrgell, Sir y Fflint yn Cysylltu, Ffordd yr larll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP, yn ystod oriau gwaith arferol neu fe gellir eu gweld ar ein gwefan yn

www.siryfflint.gov.uk

> Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau drwy anfon e-bost at Streetscene@flintshire.gov.ukneu drwy ffonio 01352701234.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig uchod at yr unigolyn isod i'r cyfeiriad isod (gan ddyfynnu cyfeirnod KW/TRO/NW/Hope) erbyn dydd Gwener 7 Hydref 2022.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint,

CH7 6NR.
Dyddiedig yr 16ain diwrnod o Medi 2022.


Adran 23 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Croesfan Arfaethedig I Gerddwyr Ar Yr A550, Ffordd Wrecsam, Yr Hob

HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Sir y Fflint, gan arfer ei bwerau dan Adran 23 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a'r holl bwerau
galluogi eraill, yn cynnig:-
a) Y Groesfan Twcan Arfaethedig yn y lleoliad a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Hysbysiad hwn.
Bydd y gwaharddiad arferol ar gerbydau rhag stopio, aros, llwytho a dadlwytho ar y ffordd gerbydau o fewn yr ardaloedd sydd
wedi'u nodi gan linellau igam ogam o boptu'r croesfannau yn berthnasol.
Rheswm dros y Cynnig: Yn dilyn cais llwyddiannus a wnaed i Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid i roi mesurau diogelwch sylweddol ar waith i fynd i'r afael a llwybr troed a beicio mwy diogel oddi ar y ffordd o Benyffordd i'r H6b ar hyd yr A550, Ffordd Wrecsam. Bydd hefyd yn helpu i gerddwyr a beicwyr groesi ac yn lleihau perygl diangen i Bentref yr H6b
ac Ysgol Uwchradd Castell Alun.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn, arferol yn Llyfrgell, Sir y Fflint yn Cysylltu, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP, yn ystod oriau gwaith arferol neu fe gellir eu gweld ar ein gwefan yn

www.siryfflint.gov.uk

> Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau drwy anfon e-bost at Streetscene@flintshire.gov.ukneu drwy ffonio 01352701234.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig uchod at yr unigolyn isod yn y cyfeiriad isod (gan ddyfynnu cyfeirnod KW/TRO/A550)
erbyn dydd Gwener 07 Hydref 2022.

ATODLEN
Croesfan Twcan Newydd i'w gosod
A550, Ffordd Wrecsam - yng nghyffiniau'r Arosfannau Bysiau presennol ar yr A550, Ffordd Wrecsam, Yr H6b ger cyffordd Y Ffawydd.

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

CH7 6NR
Dyddiedig y 16ain diwrnod o Medi 2022.


Hysbysiad O Gynnig
Ffordd Wrecsam, Penyffordd (Gwahardd Gyrru) Gorchymyn 20-

Mae Cyngor Sir y Fflint, dan adrannau 1 (1) (d) ac (f) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ("Deddf 1984") a phob pww er arall sy'n galluogi, ac ar 6l ymgynghori a Phrif Swyddog yr Heddlu, yn unol a Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, yn bwriadu gwneud y Gorchymyn a'i effaith fydd:-
1) Gwahardd unrhyw gerbyd ar wahan i reidwyr beiciau pedal yrru drwy Ffordd Wrecsam, Penyffordd.
I bwrpas y Gorchymyn arfaethedig hwn,, bydd Ffordd Wrecsam yn golygu'r ffordd wasanaeth sy'n rhedeg yn ochr a'r A550 Ffordd
Wrecsam, Penyffordd.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn, arferol yn Llyfrgell, Sir y Fflint yn Cysylltu, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP, yn ystod oriau gwaith arferol neu fe gellir eu gweld ar ein gwefan yn

www.siryfflint.gov.uk

> Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau drwy anfon e-bost at Streetscene@flintshire.gov.ukneu drwy ffonio 01352701234.
Gall unrhyw berson sy'n dymuno gwrthwynebu neu gyflwyno sylwadau ar y Gorchymyn arfaethedig wneud hynny'n ysgrifenedig. gan nodi'r rhesymau dros wrthwynebu, at y sawl a enwir isod erbyn dydd Gwener 7 Hydref 2022 gan ddyfynnu cyfeirnod
KW/TRO/NW/WRP

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint,

CH7 6NF.
Dyddiedig yr 16ain diwrnod o Medi 2022.


Hysbysiad O Gynnig
Ffordd Wrecsam, Fagl Lane A Styt Isa, Yr Hob Gwaharddiad Arfaethedig I Aros Ar Unrhyw Adeg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gwneud Gorchymyn drwy arfer ei bwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Deddf
Rheoli Traffig 2004, Rhan IV o Atodlen 9, a'r holl bwerau galluogi eraill, gyda'r effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) 2013, i gyflwyno:-1. Cyfyngiadau 'Dim Aros ar Unrhyw Adeg'-:
a. Mewn lleoliadau amrywiol ar ddwy ochr Fagl Lane, Yr H6b.

b. Ar gyffyrdd Ffordd Wrecsam gyda'r A550 Ffordd Wrecsam, Yr H6b.

c. Ar gyffordd Fagl Lane gyda chyffordd allanfa Castell Alun, Yr H6b

d. Ar leoliadau amrywiol ar ochr gogledd-ddwyrain Stryt Isa, Yr H6b

Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol 'Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) 2013' yn parhau mewn grym.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn, arferol yn Llyfrgell, Sir y Fflint yn Cysylltu, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP, yn ystod oriau gwaith arferol neu fe gellir eu gweld ar ein gwefan yn

www.siryfflint.gov.uk

> Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau drwy anfon e-bost at Streetscene@flintshire.gov.ukneu drwy ffonio 01352701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, a'r sail ar gyfer gwrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod erbyn
dydd Gwener 7 Hydref 2022 gan ddyfynnu'r cyfeirnod SS/TRO/NW/48

Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint,

CH7 6NR.
Dyddiedig yr 16ain diwrnod o Medi 2022.

www.siryfflint.gov.uk

? Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Sir y Fflint Flintshire
COUNTY COUNCIL

Attachments

MFN0676935.pdf Download

Flintshire County Council

County Hall , Mold , Flintshire , CH7 6NB

http://www.flintshire.gov.uk 01352 752 121

Comments

Related notices