Flintshire, Multiple Planning and Traffic Notices
Notice ID: MFN0665282
Deddf Cynllunio Gwlad A Thref 1990
Deddf Gynllunio (Adeiladau Rhestredig Ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig Ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/ceisiadau a ganlyn wedi'u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y ddeddfwriaeth uchod. 064424 & 064425 - Ceisiadau Cynllunio ac Adeiladau Rhestredig ar gyfer codi garej ffram bren dderw newydd i gornel dde-orllewinol y plot gyda tho llechi gan gynnwys tirlunio meddal a wal dywodfaen 600mm o uchder ym Melinau Llifio Gwysaney, Rhosesmor. (Mae'r datblygiad hwn yn effeithio ar gymeriad arbennig a lleoliad Adeilad Rhestredig).
064323 - Adnewyddu adeilad allan segur i ddarparu anecs i'r prif dy o fewn 6l troed yr adeilad presennol. Gosod ffenestri a tho llechi newydd ar agoriadau presennol yn Fferm Hesp Alyn, Cilcain, Yr Wyddgrug. (Mae'r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig mewn Ardal Gadwraeth).
Rheoliadau Cynllunio Gwlad A Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol)
(Cymru) 2017 (Fel Y'i Diwygiwyd) Rheoliad 18
Ar 6 & 12 Mai 2022 derbyniodd Cyngor Sir y Fflint gais am Ganiatad Cynllunio gyda Datganiad Amgylcheddol i ymgymryd a'r datblygiad canlynol. Erbyn hyn mae gwybodaeth bellach wedi'i chyflwyno ynglyn a'r Datganiad Amgylcheddol a gellir ei gweld yn y cyfeiriad isod.
FUL/000010/22 - Cais i osod seilbyst y peiriant papur sy'n gysylltiedig ag ailddatblygu ac ehangu hen Safle Melin Bapur UCM Shotton, ym Melin Bapur Shotton, Weighbridge Road, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. (Cais ynghyd ag Atodlen Datganiad Amgylcheddol 1).
FUL/000011/22 - Ailddatblygu ac ehangu hen safle Melin Bapur UPM Shotton, yn cynnwys 82 hectar o adeiladau ffatri bapur newydd a gwaith prosesu a swyddfeydd tirlunio cysylltiedig, mynediad a pharcio ym Melin Bapur Shotton, Weighbridge Road, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. (Cais ynghyd ag Atodlen Datganiad Amgylcheddol 1).
Gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 22 Gorffennaf 2022 ar ein gwefan sef
. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau ynglyn a'r cais uchod wneud hynny trwy'r wefan, trwy e-bost at
planning.consultation@flintshire.gov.uk
neu yn ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF gan nodi'r cyfeirnod perthnasol erbyn y dyddiad uchod.
A N Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi). Dyddiedig 1 Gorffennaf 2022.
Hysbysiad O Fwriad I Waredu Man Agored Cyhoeddus
Er mwyn cydymffurfio ag adran 123 (2A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae Cyngor Sir Y Fflint yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwaredu, drwy roddi hawddfraint, rhan o dir agored sef yr ardal chwarae ar ochr ogleddol Ffordd Derwyn, Penyffordd, Sir y Fflint yn gysylltiedig a gosod pibellau dw r wyneb a draenio dw r budr, tyllau caead cysylltiedig a siambrau archwilio a'r offer ategol angenrheidiol. Gellir archwilio copi o gynllun o'r llain hawddfraint yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell Bwcle, The Precinct, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2EF yn ystod oriau agor arferol, ac mae ar gael i'w archwilio ar wefan y Cyngor (Adran Hysbysiadau Cyhoeddus) yn
www.flintshire.gov.uk. Os bydd rhywun yn dymuno gwrthwynebu, dylid gwneud hynny'n ysgrifenedig, gan roi rhesymau, a'i anfon i'r Tim Prisio ac Ystadau, Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo CH5 3FF neu drwy e-bost at
ValuationandEstates@flintshire.gov.uk
erbyn 8 Gorffennaf 202 fan bellaf.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu).
Hysbysiad Traffig Dros Dro
Gorchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14 Alltami
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn yn cyhoeddi ei fwriad i wneud Gorchymyn nid cynt na saith niwrnod wedi 01 Gorffennaf 2022 a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag defnyddio Alltami Road rhwng ei chyffyrdd a A494T a White Farm Road, Alltami yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros gau'r ffordd yw er mwyn galluogi gwaith atgyfeirio draeniau a gwaith cysylltiedig gan Gyngor Sir y Fflint; Strydwedd a Thrafnidiaeth.
Bydd y llwybr amgen ar gyfer cerbydau a effeithir arnynt gan y cau wedi ei arwyddo'n briodol gyda'r arwyddion penodedig. Rhagwelir y bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 18 Gorffennaf 2022, neu cyn gynted a phosibl wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau am bythefnos, oni bai y cwblheir y gwaith yn gynt, ond am gyfnod o ddim mwy na deunaw mis. A B/FCC (TTRO) 043675.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Dyddiedig dydd Gwener y diwrnod 1af o Orffennaf 2022.
Rhybudd O Orchymyn Gwahardd Traffig Trwodd Dros Dro Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14 Penarlag
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn sy'n gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd Manor Lane rhwng ei chyffyrdd a'r B5125 Chester Road a Manor Road, Penarlag yn Sir y Fflint.
Y rheswm dros gau'r ffordd yw hwyluso gwaith Cysylltu Draeniau a'r gwaith cysylltiol gan Portal Construction NW Limited. Bydd arwyddion priodol wedi'u gosod yn dangos y ffordd amgen ar gyfer cerbydau.
Daw'r Gorchymyn i rym ar 04 Gorffennaf 2022. Rhagwelir y bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos, neu lai os bydd y gwaith wedi'i gwblhau'n gynt, ac ni chaiff fod ar gau am gyfnod mwy na deunaw mis.
A B/FCC (TTRO) 043434.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Dyddiedig dydd Gwener y diwrnod 1af o Orffennaf 2022.
Rhybudd O Orchymyn Traffig Dros Dro
Gwaharddiad Traffig Trwodd Dros Dro A Gorchymyn Cyfyngiad Cyflymder
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 - Adran 14 Ffyrdd Amrywiol
Mae Cyngor Sir y Fflint, ddim cynt na 7 diwrnod wedi 01 Gorffennaf 2022, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag defnyddio'r ffyrdd canlynol:
1. B5127 Mill Lane, Bwcle rhwng ei chyffyrdd a'r A549 Argoed Road a Hawkesbury Road;
2. A548 Bagillt Road, Maes Glas - rhwng ei chyffyrdd a'r B5121 Greenfield Road a chylchfan A548 Bagillt Road.
3. Englefield Avenue, Cei Connah - rhwng ei chyffyrdd gyda Bryn Road a Celyn Avenue;
4. Bryn Road, Cei Connah - rhwng ei chyffyrdd gydag Englefield Avenue a Linden Avenue;
5. Ffordd Pen y Maes, Treffynnon - rhwng ei chyffyrdd gyda'r A5026 Ffordd St Gregoire a Windmill Close;
6. B5444 Upper High Street, yr Wyddgrug - rhwng ei chyffyrdd gydag Earl Road a Phwll Glas;
7. Rhan ddienw o'r B5444, yr Wyddgrug - rhwng ei chyffyrdd gyda Phwll Glas a'r A541 Denbigh Road;
8. B5125 The Highway, Penarlag - rhwng ei chyffyrdd a'r A550 Gladstone Way ac Upper Aston Hall Lane;
9. A5026 Whitford Street, Treffynnon - rhwng yr A5026 Fron Park Road a'r B5121 New Road;
10. B5121 Greenfield Road, Maes Glas - rhwng ei chyffordd a'r A548 Bagillt Road School Lane;
11. A5104 Corwen Road, Coed Talon - rhwng ei chyffyrdd a'r B5101 Ffordd Llanfynydd a Pontybodkin Hill;
12. Tyddyn Street, yr Wyddgrug - rhwng ei chyffyrdd a'r A5119 Chester Street a Grosvenor Street.
13. Grosvenor Street, yr Wyddgrug - rhwng ei chyffyrdd a'r B5444 Wrexham Street a Tyddyn Street;
14. Ffordd y Rhos, Treuddyn - rhwng ei chyffyrdd a Ffordd y Llan a'r A5104 Corwen Road;
15. Llwyni Drive, Cei Connah - rhwng ei chyffyrdd a Ffordd Newydd;
16. Village Road, Trelogan - rhwng ei chyffordd a Chroesffordd Afon Goch a Chroesffordd Berthengam;
17. Ffordd Ddienw, Trelogan - rhwng ei chyffyrdd a Four Crosses a Chroesffordd Berthengam;
18. Ffordd Ddienw, Trelogan - rhwng ei chyffyrdd a Maen Achwyfan a Chroesffordd Berthengam;
19. Stryd Fawr, Bagillt - rhwng ei chyffyrdd a ffordd ddeuol yr A548 tua'r gorllewin a Bryn Tirion Road;
20. Ffordd Ddienw, Hendre - rhwng ei chyffyrdd a'r A541 Denbigh Road a Fferm Gwrachen;
21. A541 Denbigh Road, o'i chyffyrdd gyda'r B5122 Caerwys Hill at ffin y sir;
22. Ffordd Ddienw, Nercwys / Treuddyn - rhwng ei chyffyrdd a Ffordd Pen y Bryn a Ffordd y Rhos;
23. Rhydymwyn Road, Gwernaffield - rhwng ei chyffyrdd a Ffordd y Bryn a Cae Rhug Lane;
24. Green Lane, Ewloe Green - rhwng ei chyffyrdd a'r B5127 Mold Road a Magazine Lane;
25. Fagl Lane, Caergwrle / yr H6b - rhwng ei chyffyrdd a'r A541 Mold Road a'r A550 Hawarden Road;
Yn ystod y cyfnod cau ffyrdd a chyfyngiadau, bydd pob stryd yn y rhestrau uchod dan gyfyngiad cyflymder dros dro, a fydd yn gwahardd cerbydau rhag teithio ar gyflymder yn fwy na 10mya.
Mae angen cau'r ffyrdd er mwyn caniatau i Wasanaeth Strydoedd a Chludiant Sir y Fflint drin wyneb y ffordd gerbydau ac ymgymryd a gwaith cysylltiedig.
Bydd arwyddion priodol wedi'u gosod i dywys cerbydau ar hyd y ffordd amgen.
Rhagwelir y bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 18 Gorffennaf 2022, neu cyn gynted a phosib' wedi hynny, a'r dyddiad cwblhau fydd 31 Mawrth 2023 neu nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau os yw cyn y dyddiad hwnnw, ond o fewn cyfnod o ddeunaw mis ar y mwyaf.
A B/FCC (TTRO) 043674.
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Dyddiedig dydd Gwener y diwrnod 1af o Orffennaf 2022.
Hysbysiad O Gynnig Cyngor Sir Y Fflint
(A548 Sealand Road, Sealand)
Gorchymyn (Terfyn Cyflymder 40mya) 202x
Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd drwy hyn ei fod yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adran 84 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a'r holl bwerau galluogi eraill, a fydd yn:-
a) Gosod cyfyngiad cyflymder o 40mya ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen i'r hysbysiad hwn.
ATODLEN
Terfyn Cyflymder 40mya A548 Sealand Road, Sealand:
O'r pwynt 100 medr Gogledd-orllewin o'i gyffordd gydag Western Avenue, at ffin Sir y Fflint gyda Gorllewin Swydd Gaer a Chaer. Y ffin wedi'i leoli 12 medr Gogledd-orllewin o'i gyffordd gydag Western Avenue, Blacon.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HA, yn ystod oriau gwaith arferol neu fe gellir eu gweld ar ein gwefan yn
> Preswyl > Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau drwy anfon e-bost at Streetscene@flintshire.gov.ukneu drwy ffonio 01352 701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, a'r sail ar gyfer gwrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod yn y
cyfeiriad isod, (gan ddyfynnu cyfeirnod SS/JB/A548/40mph) erbyn dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2022.
Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
CH7 6NF.
Dyddiedig dydd Gwener y diwrnod 1af o Orffennaf 2022.
Hysbysiad O Gynnig Gorchymyn Cyngor Sir Y Fflint
(Sealand Road, Seahill Road A Old Sealand Road, Sealand) (Terfyn Cyflymder) (Diwygiad) 201x
Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd trwy hyn ei fod yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 84 a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a phob pwver galluogi arall a fydd yn cael yr effaith o ddiwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Sealand Road, Seahill Road a Old Sealand Road, Sealand) (Terfyn Cyflymder) 2015, fel petai'r drydedd Atodlen i'r Gorchymyn yn cael ei ddileu a'i ddisodli gydag:-
ATODLEN 2
Terfyn Cyflymder 40mya A548 Sealand Road
O bwynt 150 metr i'r dwyrain o'r gyffordd gyda Manor Road, i gyfeiriad y gorllewin at bwynt 100 i'r gogledd orllewin o'i chyffordd gyda Western Avenue, Blacon.
Gellir gweld copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd a chynllun yn dangos y darnau o ffyrdd y mae'r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud a nhw a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HA yn ystod oriau swyddfa neu mae modd eu gweld ar ein gwefan yn
> Resident > Roads, Streets and Travel > Traffic Regulation Orders neu gellir gwneud cais am gopi o'r dogfennau drwy e-bostio
Streetscene@flintshire.gov.uk
neu drwy ffonio 01352 701234.
Dylid anfon gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, a'r sail ar gyfer gwrthwynebu, yn ysgrifenedig at yr unigolyn isod yn y
cyfeiriad isod, (gan ddyfynnu cyfeirnod SS/JB/A548/40mph) erbyn dydd Gwener 22 Gorffennaf 2022.
Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
CH7 6NF.
Dyddiedig dydd Gwener y diwrnod 1af o Orffennaf 2022.
? Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
? Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Sir y Fflint Flintshire
COUNTY COUNCIL
Flintshire County Council
County Hall , Mold , Flintshire , CH7 6NB
info@flintshire.gov.uk http://www.flintshire.gov.uk 01352 752 121
Comments