Search for more Public Notices in your area
Traffic

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

Notice ID: MFN0647084

Notice effective from
18th February 2022 to 20th March 2022

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
GORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A THREF (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU CYFFREDINOL) (CYMRU) 2012 - HYSBYSIAD YN OL ERTHYGL 12
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/ceisiadau a ganlyn wedi'u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y ddeddfwriaeth uchod. 063601 - Ty deulawr arfaethedig gyda garej ar Lain 3, Cwrt Glyndwr, Ffordd Lerpwl, Bwcle. (Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn unol a darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal y mae'r cais yn ymwneud a hi).
DEDDF GYNLLUNIO (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) 1990
RHEOLIADAU CYNLLUNIO (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) (CYMRU) 2012
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/ceisiadau a ganlyn wedi'u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y ddeddfwriaeth uchod. 061388 - Amlinelliad - Dymchwel hen Orsaf Heddlu ac Adeiladau Cwrtil a chodi 10 o randai newydd a lle parcio cysylltiedig yn hen Orsaf Heddlu Bwcle, Ffordd Yr Wyddgrug, Bwcle. (Mae'r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig). Cynlluniau
diwygiedig wedi eu derbyn.
063828 - Newid Defnydd i storio ceir angladd a glanhau ceir yn 1 Marlow Terrace, Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug. (Datblygiad sy'n
effeithio ar gymeriad neu wedd Ardal Gadwraeth).
064016 - Newid defnydd arfaethedig o'r gofod swyddfa / storio presennol ar y llawr cyntaf a'r ail lawr i ddarparu 2 fflat preswyl. Addasiadau arfaethedig i'r swyddfa bresennol ar y llawr gwaelod yn Dodds, 9 Stryd Caer, Yr Wyddgrug. (Datblygiad sy'n effeithio
ar gymeriad neu wedd Ardal Gadwraeth).
064074 - Codi un annedd ar wahan yn 39-41, Y Stryd Fawr, Caergwrle. (Datblygiad sy'n effeithio ar gymeriad neu wedd Ardal
Gadwraeth).
Gellir aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 11 Mawrth 2022 ar ein gwefan sef

www.siryfflint.gov.uk/cronfaddataceisiadaucynllunio

. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau ynglyn a'r cais uchod wneud hynny trwy'r wefan, trwy e-bost at

planning.consultation@flintshire.gov.uk

neu yn ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF gan nodi'r cyfeirnod perthnasol
erbyn y dyddiad uchod.
A N Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) ar ran Cyngor Sir y Fflint . Dyddiedig 18 diwrnod o Chwefror 2022.
HYSBYSIAD CADARNHAU GORCHYMYN
DEDDF PRIFFYRDD 1980
CYNGOR SIR Y FFLINT
(LLWYBR TROED CYHOEDDUS 14 YNG NGHYMUNED LLANASA)
GORCHYMYN CYNGOR SIR Y FFLINT 2012
Ar 8 Medi 2021, cadarnhaodd Cyngor Sir y Fflint y gorchymyn uchod.
Effaith cadarnhau'r Gorchymyn yw gwyro darn o Lwybr Cyhoeddus Rhif 14 yng Nghymuned Llanasa yn Sir y Fflint o bwynt yn NGR 31219 38217 i gyfeiriad cyffredinol y de am bellter o oddeutu 245 metr i bwynt yn NGR 31214 38193 fel y dangosir gan linell drwchus ddi-dor rhwng pwyntiau A a B ar fap y Gorchymyn i linell sy'n mynd o bwynt yn NGR 31224 38219 i gyfeiriad cyffredinol y de yna'n troi i gyfeiriad de-orllewin am gyfanswm pellter o 309 metr i bwynt NGR 31214 38193 fel y dangosir gan linell drwchus
doredig rhwng pwyntiau C a B ar fap y Gorchymyn.
Mae copi o'r cadarnhad Gorchymyn a Map y Gorchymyn i'w gweld yn rhad ac am ddim yn ystod oriau swyddfa Swyddfa'r Post Ffynnongroyw, Prif Ffordd, Ffynnongroyw, CH8 9SN ac yn ystod oriau rhesymol ar dderbynfa swyddfeydd y cyngor, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3XT. Gellir prynu copiau o'r Gorchymyn a'r map yn Nhy Dewi Sant am ff enwol. Daeth y Gorchymyn i rym ar 8 Medi 2021, ond petai'r Gorchymyn yn poeni unigolyn a bod yr unigolyn hwnnw am gwestiynu ei ddilysrwydd, neu unrhyw ddarpariaeth sy'n rhan ohono, ar y sail nad yw'n cael ei gynnwys ym mhwerau Deddf Priffyrdd 1980 (y Ddeddf), fel y'i diwygiwyd, neu ar sail nad oes unrhyw ofyniad o'r Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu unrhyw reoliad a wnaed o dan y Ddeddf mewn perthynas a chadarnhau'r Gorchymyn, wedi bod yn destun cydymffurfiaeth, gall ef neu hi, yn unol a pharagraff 2 Atodlen 2 y Ddeddf fel y cymhwysir gan baragraff 5 Atodlen 6 y Ddeddf, wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y
cyhoeddir yr hysbysiad hwn gyntaf.
RS/SMJ/11/3/409.
Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF. Dyddiedig 18 diwrnod o Chwefror 2022.
HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 - ADRAN 14 GARDEN CITY
Mae Cyngor Sir y Fflint drwy hyn yn cyhoeddi ei fwriad i wneud Gorchymyn nid cynt na saith niwrnod wedi 18 Chwefror 2022 a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag defnyddio Farm Road rhwng ei chyffyrdd a Bridge View a Brookside, Garden City yn Sir
y Fflint.
Y rheswm dros gau'r ffordd yw er mwyn i Power On Connections hwyluso gosod cebl trydan foltedd uchel a gwaith cysylltiedig. Bydd y llwybr amgen ar gyfer cerbydau a effeithir arnynt gan y cau wedi ei arwyddo'n briodol gyda'r arwyddion penodedig. Rhagwelir y daw'r Gorchymyn yn dod i rym ar 07 Mawrth 2022, neu cyn gynted ag y bo modd wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau
am 3 wythnos, oni bai y cwblheir y gwaith yn gynt, ond dim mwy na deunaw mis.
A B/FCC (TTRO) 042429
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu) ,Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Dyddiedig 18 diwrnod o Chwefror 2022.
HYSBYSIAD TRAFFIG DROS DRO
GORCHYMYN GWAHARDD TRAFFIG TRWODD DROS DRO
DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984 - ADRAN 14
PARC DIWYDIANNOL GLANNAU DYFRDWY
Mae Cyngor Sir y Fflint, ddim cynt na 7 diwrnod wedi 18 Chwefror 2022, yn bwriadu gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd
unrhyw gerbyd rhag defnyddio'r ffyrdd canlynol:
1. A548 Ffordd ddeuol tua'r gorllewin, rhwng ei chyffordd a Chylchfan Tenth Avenue a Chyfnewidfa Kelsterton. A548 Ffordd ddeuol
tua'r dwyrain, rhwng ei chyffordd a Chyfnewidfa Kelsterton Chylchfan Tenth Avenue; Mae angen cau'r ffordd er mwyn rhoi wyneb newydd ar y ffordd a gwaith cysylltiedig gan Gyngor Sir y Fflint; Gwasanaethau Stryd
a Chludiant.
Bydd y llwybr amgen ar gyfer cerbydau a effeithir arnynt gan y cau wedi ei arwyddo'n briodol gyda'r arwyddion penodedig. Rhagwelir y daw'r Gorchymyn yn dod i rym ar 07 Mawrth 2022, neu cyn gynted ag y bo modd wedi hynny. Bydd y ffordd ar gau
am bythefnos neu os cwblheir y gwaith yn gynt, ond ni chaiff fod ar gau am gyfnod mwy na deunaw mis.
A B/FCC (TTRO) 042428
Gareth Owens, Prif Swyddog (Llywodraethu), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Dyddiedig 18 diwrnod o Chwefror 2022.
HYSBYSIAD O GWNEUD CYNGOR SIR Y FFLINT
LINDEN AVENUE, BEECHWOOD AVENUE A ST DAVID'S DRIVE, CEI CONNAH
GWAHARDDIAD I AROS AR UNRHYW ADEG A DIM STOPIO
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud Gorchymyn ar 16 Chwefror 2022 drwy arfer ei bwerau o dan
Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Deddf Rheoli Traffig 2004, Rhan IV o Atodlen 9, a'r holl bwerau galluogi eraill, Cyflwyno
ac yw diwygio Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodaeth Sifil ac Atgyfnerthu) 2013 a:
1. Cyfyngiadau 'Dim Aros ar Unrhyw Adeg'-:

a. Ar ddwy ochr Linden Avenue yng nghyffiniau Ysgol Bryn Deva, Cei Connah

b. Ar ddwy ochr St David's Drive yng nghyffiniau eiddo rhif 1 a 10, Cei Connah

c. Ar gyffordd Beechwood Avenue a Linden Ave, Cei Connah

d. Ar gyffordd St David's Drive a Linden Avenue, Cei Connah

2. Dim Stopio ar y Marciau Ysgol Cadwch yn Glir. Dydd Llun - Dydd Gwener 8am tan 5pm

a. Ar ochr Ogledd Ddwyreiniol Linden Avenue, drws nesaf i Ysgol Bryn Deva, Cei Connah.

b. Ar ochr Ogledd Orllewinol St David's Drive, drws nesaf i Ysgol Bryn Deva, Cei Connah.

Ym mhob ystyr arall, bydd darpariaethau presennol 'Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau
Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) 2013' yn parhau mewn grym.
Er diogelwch yn ystod y Pandemig COVID-19, os ydych yn dymuno gweld copi o'r Hysbysiad hwn, y Gorchymyn a ddaw i rym ar 28 Chwefror 2022, cynlluniau'n dangos y ffyrdd a effeithir arnynt gan y Gorchymyn a datganiad o resymau'r cyngor dros wneud y Gorchymyn, cynghorir eich bod yn eu darllen ar ein gwefan ar

www.siryfflint.gov.uk

> Preswyl >Ffyrdd, Strydoedd a Theithio > Gorchmynion Rheoleiddio Traffig neu gallwch wneud cais am gopi o'r dogfennau trwy anfon e-bost at

streetscene@flintshire.gov.uk

neu drwy ffonio 01352701234.
Os ydych chi'n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo ar y sail na chydymffurfiwyd
ag unrhyw ofyniad y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaethpwyd dani o ran y Gorchymyn, fe allwch, o fewn chwe wythnos o
ddyddiad y Gorchymyn, wneud cais i'r uchel Lys, i'r pwrpas hwn.
Katie Wilby, Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NR.
Dyddiedig 18 diwrnod o Chwefror 2022.

www.siryfflint.gov.uk

? Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Sir y Fflint Flintshire
COUNTY COUNCIL

Attachments

MFN0647084.pdf Download

Flintshire County Council

County Hall , Mold , Flintshire , CH7 6NB

http://www.flintshire.gov.uk 01352 752 121

Comments

Related notices